Croeso i wefan Cyngor Cymuned

Llanfihangel y Pennant

Dyma ardal hyfryd yn ne orllewin Meirionnydd, gyda chyfoeth o hanes a threftadaeth. Mae’n ymestyn o Fwlch Talyllyn i Dolgoch, ac o Gwm Llanfihangel y Pennant hyd at Graig yr Aderyn. Mae’n cynnwys Llyn Talyllyn (Llyn Mwyngil), a hefyd Cartref Mari Jones, sef Ty’n Ddol. Oddi yma, yn 1800, y cerddodd yn ferch ifanc 16 oed yr holl ffordd i’r Bala i brynu beibl gan Thomas Charles, a hyn oedd yr ysbrydoliaeth i sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804. Mae hefyd yn cynnwys Castell y Bere, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr yn 1221, sy’n enghraifft o beirianneg canoloesol Cymreig. Gwasgaredig yw’r boblogaeth sydd o fewn ffiniau’r Cyngor Cymuned. Mae’r nifer mwyaf yn byw yn Abergynolwyn, - pentref a ddaeth i fodolaeth yn dilyn agor Chwarel Llechi Bryneglwys yn 1844. Buddsoddwyd mewn technoleg ac adeiladwyd rheilffordd. Mae olion y chwarel i’w gweld ar y tirwedd, ac ar y gymuned yn ei chyfanrwydd. Cymaint yw’r dylanwad nes fod yr ardal wedi ei dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021. Erbyn heddiw, amaeth a thwristiaeth yw prif gyflogwyr o fewn y gymuned, gyda Rheilffordd Talyllyn yn hynod boblogaidd. Mae’n ardal gwerth ymweld â hi.

Cyngor Cymuned Llanfihangel y Pennant © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Cyngor Cymuned Llanfihangel y Pennant
ENGLISH ENGLISH

Croeso i wefan Cyngor

Cymuned Llanfihangel y

Pennant

Dyma ardal hyfryd yn ne orllewin Meirionnydd, gyda chyfoeth o hanes a threftadaeth. Mae’n ymestyn o Fwlch Talyllyn i Dolgoch, ac o Gwm Llanfihangel y Pennant hyd at Graig yr Aderyn. Mae’n cynnwys Llyn Talyllyn (Llyn Mwyngil), a hefyd Cartref Mari Jones, sef Ty’n Ddol. Oddi yma, yn 1800, y cerddodd yn ferch ifanc 16 oed yr holl ffordd i’r Bala i brynu beibl gan Thomas Charles, a hyn oedd yr ysbrydoliaeth i sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804. Mae hefyd yn cynnwys Castell y Bere, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr yn 1221, sy’n enghraifft o beirianneg canoloesol Cymreig. Gwasgaredig yw’r boblogaeth sydd o fewn ffiniau’r Cyngor Cymuned. Mae’r nifer mwyaf yn byw yn Abergynolwyn, - pentref a ddaeth i fodolaeth yn dilyn agor Chwarel Llechi Bryneglwys yn 1844. Buddsoddwyd mewn technoleg ac adeiladwyd rheilffordd. Mae olion y chwarel i’w gweld ar y tirwedd, ac ar y gymuned yn ei chyfanrwydd. Cymaint yw’r dylanwad nes fod yr ardal wedi ei dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021. Erbyn heddiw, amaeth a thwristiaeth yw prif gyflogwyr o fewn y gymuned, gyda Rheilffordd Talyllyn yn hynod boblogaidd. Mae’n ardal gwerth ymweld â hi.
Cyngor Cymuned Llanfihangel y Pennant

Cyngor Cymuned Llanfihangel y Pennant © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

ENGLISH ENGLISH